Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
20 Hydref 2014
CLA449 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014
Gweithdrefn:Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch pa bersonau o dramor a fydd yn gymwys neu’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai a chymorth tai o dan y Ddeddf Tai 1996.
CLA450 - Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) (Diwygio) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
At ddibenion treth y gyngor, trinir eiddo sengl fel arfer sy’n cynnwys mwy nag un uned hunangynhaliol fel pe bai wedi ei ffurfio o’r un nifer o anheddau â’r nifer o unedau hunangynhaliol.
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod eiddo a ddefnyddir fel lloches yn cael ei drin fel un annedd at ddibenion y dreth gyngor, hyd yn oed os yw’r eiddo yn cynnwys mwy nag un uned hunangynhaliol.
CLA451 - Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 ("y Rheoliadau") yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir baratoi cynllun datblygu ysgol sy'n cynnwys gwybodaeth benodol. Diben y cynllun hwn yw hyrwyddo safonau uchel o ran cyflawniadau addysgol mewn ysgolion a gynhelir a dyma gynllun strategol yr ysgol ar gyfer gwella.